14. Yna y dywedodd Joab, Nid arhoaf fel hyn gyda thi. Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law, ac a'u brathodd trwy galon Absalom, ac efe eto yn fyw yng nghanol y dderwen.
15. A'r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant, ac a drawsant Absalom, ac a'i lladdasant ef.
16. A Joab a utganodd mewn utgorn; a'r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel: canys Joab a ataliodd y bobl.
17. A hwy a gymerasant Absalom, ac a'i bwriasant ef mewn ffos fawr yn y coed, ac a osodasant arno garnedd gerrig fawr iawn: a holl Israel a ffoesant bob un i'w babell.
18. Ac Absalom a gymerasai ac a osodasai iddo yn ei fywyd golofn, yn nyffryn y brenin: canys efe a ddywedodd, Nid oes fab gennyf i wneuthur coffa am fy enw: ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei hun. A hi a elwir Lle Absalom, hyd y dydd hwn.
19. Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd, Gad i mi redeg yn awr, a mynegi i'r brenin, ddarfod i'r Arglwydd ei ddial ef ar ei elynion.
20. A Joab a ddywedodd wrtho ef, Ni byddi di yn genhadwr y dydd hwn, eithr mynegi ddiwrnod arall: ond heddiw ni byddi di gennad, oherwydd marw mab y brenin.
21. Yna y dywedodd Joab wrth Cusi, Dos, dywed i'r brenin yr hyn a welaist. A Chusi a ymgrymodd i Joab, ac a redodd.
22. Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd eilwaith wrth Joab, Beth bynnag a fyddo, gad i minnau, atolwg, redeg ar ôl Cusi. A dywedodd Joab, I ba beth y rhedi di, fy mab, gan nad oes gennyt genadwriaeth addas?
23. Ond beth bynnag a fyddo, eb efe, gad i mi redeg. A dywedodd yntau wrtho, Rhed. Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Cusi.