6. A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Ahitoffel: a wnawn ni ei gyngor ef? onid e, dywed di.
7. A dywedodd Husai wrth Absalom, Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon.
8. Canys, eb Husai, ti a wyddost am dy dad a'i wŷr, mai cryfion ydynt hwy, a chreulon eu meddwl, megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd sydd ryfelwr, ac nid erys efe dros nos gyda'r bobl.
9. Wele, yn awr y mae efe yn llechu mewn rhyw ogof, neu mewn rhyw le: a phan syrthio rhai ohonynt yn y dechrau, yna y bobl a glyw, ac a ddywed, Bu laddfa ymysg y bobl sydd ar ôl Absalom.
10. Yna yr un grymus, yr hwn y mae ei galon fel calon llew, a lwfrha: canys gŵyr holl Israel mai glew yw dy dad di, ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef.
11. Am hynny y cynghoraf, lwyr gasglu atat ti holl Israel, o Dan hyd Beer‐seba, fel y tywod wrth y môr o amldra, a myned o'th wyneb di dy hun i'r rhyfel.
12. Felly y deuwn arno ef i un o'r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ac a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear: ac ni adewir dim ohono ef, nac un chwaith o'r holl wŷr sydd gydag ef.
13. Ond os i ddinas yr ymgasgl efe, yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno, a ni a'i tynnwn hi i'r afon, fel na chaffer yno un garegan.