2 Samuel 16:9-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin, Paham y melltithia'r ci marw hwn fy arglwydd frenin? gad i mi fyned drosodd, atolwg, a thorri ei ben ef.

10. A'r brenin a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia? felly melltithied, oherwydd yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Melltithia Dafydd. Am hynny pwy a ddywed, Paham y gwnei fel hyn?

11. A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, Wele fy mab, yr hwn a ddaeth allan o'm hymysgaroedd i, yn ceisio fy einioes: ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn? Gadewch iddo, a melltithied: canys yr Arglwydd a archodd iddo.

12. Efallai yr edrych yr Arglwydd ar fy nghystudd i, ac y dyry yr Arglwydd i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn.

13. Ac fel yr oedd Dafydd a'i wŷr yn myned ar hyd y ffordd, Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd, ar ei gyfer ef; ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felltithiai, ac a daflai gerrig, ac a fwriai lwch i'w erbyn ef.

14. A daeth y brenin, a'r holl bobl oedd gydag ef, yn lluddedig, ac a orffwysodd yno.

2 Samuel 16