2 Samuel 15:24-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Ac wele Sadoc, a'r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod Duw; a hwy a osodasant i lawr arch Duw: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i'r holl bobl ddyfod allan o'r ddinas.

25. A dywedodd y brenin wrth Sadoc, Dychwel ag arch Duw i'r ddinas: os caf fi ffafr yng ngolwg yr Arglwydd, efe a'm dwg eilwaith, ac a bair i mi ei gweled hi, a'i babell.

26. Ond os fel hyn y dywed efe; Nid wyf fodlon i ti; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg.

2 Samuel 15