2 Samuel 14:9-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A'r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin, Bydded y camwedd hwn arnaf fi, fy arglwydd frenin, ac ar dŷ fy nhad i, a'r brenin a'i orseddfainc ef yn ddieuog.

10. A'r brenin a ddywedodd, Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt, ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi.

11. Yna hi a ddywedodd, Cofied, atolwg, y brenin dy Arglwydd Dduw, rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i. Ac efe a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr.

12. Yna y dywedodd y wraig, Atolwg, gad i'th lawforwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin. Yntau a ddywedodd, Dywed.

13. A'r wraig a ddywedodd, Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl Dduw? canys y mae'r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius, gan na ddug y brenin adref ei herwr.

14. Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir: gan na ddug Duw ei einioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho.

15. Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â'm harglwydd frenin am y peth hyn, oblegid i'r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy lawforwyn, Ymddiddanaf yn awr â'r brenin; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn.

16. Canys y brenin a wrendy, fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a'm mab hefyd o etifeddiaeth Dduw.

17. A'th lawforwyn a ddywedodd, Bydded, atolwg, gair fy arglwydd frenin yn gysur: canys fel angel Duw yw fy Arglwydd frenin, i wrando'r da a'r drwg: a'r Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi.

18. Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd wrth y wraig, Na chela, atolwg, oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti. A dywedodd y wraig, Llefared yn awr fy arglwydd frenin.

2 Samuel 14