2 Samuel 13:6-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Felly Amnon a orweddodd, ac a gymerth arno fod yn glaf. A'r brenin a ddaeth i'w edrych ef; ac Amnon a ddywedodd wrth y brenin, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwytawyf o'i llaw hi.

7. Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, Dos yn awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo.

8. Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd; ac efe oedd yn gorwedd: a hi a gymerth beilliaid, ac a'i tylinodd, ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau.

9. A hi a gymerth badell, ac a'u tywalltodd hwynt ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwyta. Ac Amnon a ddywedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef.

10. Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar, Dwg y bwyd i'r ystafell, fel y bwytawyf o'th law di. A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi, ac a'u dug at Amnon ei brawd i'r ystafell.

11. A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddywedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyda mi, fy chwaer.

12. A hi a ddywedodd wrtho, Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn.

13. A minnau, i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth? a thi a fyddi fel un o'r ynfydion yn Israel. Yn awr, gan hynny, ymddiddan, atolwg, â'r brenin: canys ni omedd efe fi i ti.

14. Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a'i treisiodd, ac a orweddodd gyda hi.

15. Yna Amnon a'i casaodd hi â chas mawr iawn: canys mwy oedd y cas â'r hwn y casasai efe hi, na'r cariad â'r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith.

16. A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid oes achos: y drygioni hwn, sef fy ngyrru ymaith, sydd fwy na'r llall a wnaethost â mi. Ond ni wrandawai efe arni hi.

17. Eithr efe a alwodd ar ei lanc, ei weinidog, ac a ddywedodd, Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi; a chloa'r drws ar ei hôl hi.

2 Samuel 13