2 Samuel 13:14-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a'i treisiodd, ac a orweddodd gyda hi.

15. Yna Amnon a'i casaodd hi â chas mawr iawn: canys mwy oedd y cas â'r hwn y casasai efe hi, na'r cariad â'r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith.

16. A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid oes achos: y drygioni hwn, sef fy ngyrru ymaith, sydd fwy na'r llall a wnaethost â mi. Ond ni wrandawai efe arni hi.

2 Samuel 13