11. A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddywedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyda mi, fy chwaer.
12. A hi a ddywedodd wrtho, Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys ni wneir fel hyn yn Israel: na wna di yr ynfydrwydd hyn.
13. A minnau, i ba le y bwriaf ymaith fy ngwarth? a thi a fyddi fel un o'r ynfydion yn Israel. Yn awr, gan hynny, ymddiddan, atolwg, â'r brenin: canys ni omedd efe fi i ti.
14. Ond ni fynnai efe wrando ar ei llais hi; eithr efe a fu drech na hi, ac a'i treisiodd, ac a orweddodd gyda hi.
15. Yna Amnon a'i casaodd hi â chas mawr iawn: canys mwy oedd y cas â'r hwn y casasai efe hi, na'r cariad â'r hwn y carasai efe hi. Ac Amnon a ddywedodd wrthi hi, Cyfod, dos ymaith.
16. A hi a ddywedodd wrtho ef, Nid oes achos: y drygioni hwn, sef fy ngyrru ymaith, sydd fwy na'r llall a wnaethost â mi. Ond ni wrandawai efe arni hi.
17. Eithr efe a alwodd ar ei lanc, ei weinidog, ac a ddywedodd, Gyrrwch hon yn awr allan oddi wrthyf fi; a chloa'r drws ar ei hôl hi.
18. Ac amdani hi yr oedd mantell symudliw: canys â'r cyfryw fentyll y dilledid merched y brenin, y rhai oedd forynion. Yna ei weinidog ef a'i dug hi allan, ac a glodd y drws ar ei hôl hi.
19. A Thamar a gymerodd ludw ar ei phen, ac a rwygodd y fantell symudliw oedd amdani, ac a osododd ei llaw ar ei phen, ac a aeth ymaith dan weiddi.
20. Ac Absalom ei brawd a ddywedodd wrthi hi, Ai Amnon dy frawd a fu gyda thi? er hynny yn awr taw â sôn, fy chwaer: dy frawd di yw efe; na osod dy galon ar y peth hyn. Felly Tamar a drigodd yn amddifad yn nhŷ Absalom ei brawd.
21. Ond pan glybu'r brenin Dafydd yr holl bethau hynny, efe a ddigiodd yn aruthr.
22. Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef.
23. Ac ar ôl dwy flynedd o ddyddiau, yr oedd gan Absalom rai yn cneifio yn Baal‐hasor, yr hwn sydd wrth Effraim: ac Absalom a wahoddodd holl feibion y brenin.
24. Ac Absalom a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Wele yn awr rai yn cneifio i'th was di; deued, atolwg, y brenin a'i weision gyda'th was.