2 Samuel 10:18-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A'r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o'r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno.

19. A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a'u gwasanaethasant hwynt. A'r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meibion Ammon mwyach.

2 Samuel 10