2 Samuel 1:24-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Merched Israel, wylwch am Saul, yr hwn oedd yn eich dilladu chwi ag ysgarlad, gyda hyfrydwch, yr hwn oedd yn gwisgo addurnwisg aur ar eich dillad chwi.

25. Pa fodd y cwympodd y cedyrn yng nghanol y rhyfel! Jonathan, ti a laddwyd ar dy uchelfaoedd.

26. Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd Jonathan: cu iawn fuost gennyf fi: rhyfeddol oedd dy gariad tuag ataf fi, tu hwnt i gariad gwragedd.

27. Pa fodd y syrthiodd y cedyrn, ac y difethwyd arfau rhyfel!

2 Samuel 1