2 Samuel 1:18-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. (Dywedodd hefyd am ddysgu meibion Jwda i saethu â bwa: wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Jaser.)

19. O ardderchowgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfaoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn!

20. Nac adroddwch hyn yn Gath; na fynegwch yn heolydd Ascalon: rhag llawenychu merched y Philistiaid, rhag gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededig.

2 Samuel 1