2 Ioan 1:9-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Pob un a'r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae'r Tad a'r Mab ganddo.

10. Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho:

11. Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o'i weithredoedd drwg ef.

12. Er bod gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atoch, nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc: eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn.

13. Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.

2 Ioan 1