2 Ioan 1:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a'i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd;

2. Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd.

3. Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.

4. Bu lawen iawn gennyf i mi gael o'th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad.

2 Ioan 1