7. Gwyn fyd dy wŷr di, a gwynfydedig yw dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron, ac yn clywed dy ddoethineb.
8. Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th hoffodd di, i'th osod ar ei orseddfa ef, yn frenin dros yr Arglwydd dy Dduw: oherwydd cariad dy Dduw tuag at Israel, i'w sicrhau yn dragywydd; am hynny y gwnaeth efe dydi yn frenin arnynt hwy, i wneuthur barn a chyfiawnder.
9. A hi a roddodd i'r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr: ac ni bu y fath beraroglau â'r rhai a roddodd brenhines Seba i'r brenin Solomon.
10. Gweision Hiram hefyd, a gweision Solomon, y rhai a ddygasant aur o Offir, a ddygasant goed algumim a meini gwerthfawr.
11. A'r brenin a wnaeth o'r coed algumim risiau i dŷ yr Arglwydd, ac i dŷ y brenin, a thelynau a nablau i'r cantorion: ac ni welsid eu bath o'r blaen yng ngwlad Jwda.
12. A'r brenin Solomon a roddodd i frenhines Seba ei holl ddymuniad, a'r hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a ddygasai hi i'r brenin. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i'w gwlad, hi a'i gweision.
13. A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;
14. Heblaw yr hyn yr oedd y marchnadwyr a'r marsiandwyr yn eu dwyn: a holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad, oedd yn dwyn aur ac arian i Solomon.