11. A'r brenin a wnaeth o'r coed algumim risiau i dŷ yr Arglwydd, ac i dŷ y brenin, a thelynau a nablau i'r cantorion: ac ni welsid eu bath o'r blaen yng ngwlad Jwda.
12. A'r brenin Solomon a roddodd i frenhines Seba ei holl ddymuniad, a'r hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a ddygasai hi i'r brenin. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i'w gwlad, hi a'i gweision.
13. A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;
14. Heblaw yr hyn yr oedd y marchnadwyr a'r marsiandwyr yn eu dwyn: a holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad, oedd yn dwyn aur ac arian i Solomon.
15. A'r brenin Solomon a wnaeth ddau can tarian o aur dilin: chwe chan sicl o aur dilin a roddodd efe ym mhob tarian.
16. A thri chant o fwcledi o aur dilin: tri chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob bwcled. A'r brenin a'u gosododd hwynt yn nhŷ coed Libanus.
17. A'r brenin a wnaeth orseddfa fawr o ifori, ac a'i gwisgodd ag aur pur.
18. A chwech o risiau oedd i'r orseddfa, a throedle o aur, ynglŷn wrth yr orseddfa, a chanllawiau o bob tu i'r eisteddle, a dau lew yn sefyll wrth y canllawiau;
19. A deuddeg o lewod yn sefyll yno ar y chwe gris o bob tu. Ni wnaethpwyd y fath mewn un deyrnas.
20. A holl lestri diod y brenin Solomon oedd o aur, a holl lestri tŷ coed Libanus oedd aur pur: nid oedd yr un o arian; nid oedd dim bri arno yn nyddiau Solomon.