2 Cronicl 9:1-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phan glybu brenhines Seba glod Solomon, hi a ddaeth i Jerwsalem, i brofi Solomon â chwestiynau caled, â llu mawr iawn, ac â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer, a meini gwerthfawr: a hi a ddaeth at Solomon, ac a ddywedodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon.

2. A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: ac nid oedd dim yn guddiedig rhag Solomon a'r na fynegodd efe iddi hi.

3. A phan welodd brenhines Seba ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladasai efe,

4. A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a'u dillad, a'i drulliadau ef, a'u gwisgoedd, a'i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd; nid oedd mwyach ysbryd ynddi.

5. A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad, am dy weithredoedd di, ac am dy ddoethineb:

6. Eto ni choeliais i'w geiriau hwynt, nes i mi ddyfod, ac i'm llygaid weled. Ac wele, ni fynegasid i mi hanner helaethrwydd dy ddoethineb: ychwanegaist at y clod a glywais i.

7. Gwyn fyd dy wŷr di, a gwynfydedig yw dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron, ac yn clywed dy ddoethineb.

8. Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th hoffodd di, i'th osod ar ei orseddfa ef, yn frenin dros yr Arglwydd dy Dduw: oherwydd cariad dy Dduw tuag at Israel, i'w sicrhau yn dragywydd; am hynny y gwnaeth efe dydi yn frenin arnynt hwy, i wneuthur barn a chyfiawnder.

9. A hi a roddodd i'r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr: ac ni bu y fath beraroglau â'r rhai a roddodd brenhines Seba i'r brenin Solomon.

10. Gweision Hiram hefyd, a gweision Solomon, y rhai a ddygasant aur o Offir, a ddygasant goed algumim a meini gwerthfawr.

11. A'r brenin a wnaeth o'r coed algumim risiau i dŷ yr Arglwydd, ac i dŷ y brenin, a thelynau a nablau i'r cantorion: ac ni welsid eu bath o'r blaen yng ngwlad Jwda.

12. A'r brenin Solomon a roddodd i frenhines Seba ei holl ddymuniad, a'r hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a ddygasai hi i'r brenin. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i'w gwlad, hi a'i gweision.

13. A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;

14. Heblaw yr hyn yr oedd y marchnadwyr a'r marsiandwyr yn eu dwyn: a holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad, oedd yn dwyn aur ac arian i Solomon.

15. A'r brenin Solomon a wnaeth ddau can tarian o aur dilin: chwe chan sicl o aur dilin a roddodd efe ym mhob tarian.

16. A thri chant o fwcledi o aur dilin: tri chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob bwcled. A'r brenin a'u gosododd hwynt yn nhŷ coed Libanus.

17. A'r brenin a wnaeth orseddfa fawr o ifori, ac a'i gwisgodd ag aur pur.

2 Cronicl 9