2 Cronicl 6:32-42 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Ac am y dieithrddyn hefyd, yr hwn ni byddo o'th bobl di Israel, ond wedi dyfod o wlad bell, er mwyn dy enw mawr, a'th law gadarn, a'th fraich estynedig; os deuant a gweddïo yn y tŷ hwn:

33. Yna gwrando di o'r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a lefo y dieithrddyn arnat; fel yr adwaeno holl bobl y ddaear dy enw di, ac y'th ofnont, fel y mae dy bobl Israel, ac y gwypont mai ar dy enw di y gelwir y tŷ yma a adeiledais i.

34. Os â dy bobl allan i ryfel yn erbyn eu gelynion ar hyd y ffordd yr anfonych hwynt, os gweddïant arnat ti tua'r ddinas yma yr hon a ddetholaist, a'r tŷ a adeiledais i'th enw di:

35. Yna gwrando o'r nefoedd ar eu gweddi hwynt ac ar eu deisyfiad, a gwna farn iddynt.

36. Os pechant i'th erbyn, (canys nid oes dyn ni phecha,) a diclloni ohonot i'w herbyn hwynt, a'u rhoddi o flaen eu gelynion, ac iddynt eu caethgludo yn gaethion i wlad bell neu agos;

37. Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac ymbil â thi yng ngwlad eu caethiwed, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom, a gwnaethom yn annuwiol;

38. Os dychwelant atat â'u holl galon, ac â'u holl enaid, yng ngwlad eu caethiwed, lle y caethgludasant hwynt, a gweddïo tua'u gwlad a roddaist i'w tadau, a'r ddinas a ddetholaist, a'r tŷ a adeiledais i'th enw di:

39. Yna gwrando di o'r nefoedd, o fangre dy breswylfod, eu gweddi hwynt a'u deisyfiadau, a gwna farn iddynt, a maddau i'th bobl a bechasant i'th erbyn.

40. Yn awr, O fy Nuw, bydded, atolwg, dy lygaid yn agored, a'th glustiau yn ymwrando â'r weddi a wneir tua'r lle yma.

41. Ac yn awr cyfod, O Arglwydd Dduw, i'th orffwysfa, ti ac arch dy gadernid: dillader dy offeiriaid, O Arglwydd Dduw, â iachawdwriaeth, a llawenyched dy saint mewn daioni.

42. O Arglwydd Dduw, na thro ymaith wyneb dy eneiniog: cofia drugareddau Dafydd dy was.

2 Cronicl 6