15. Yr hwn a gedwaist â'th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho; fel y lleferaist â'th enau, felly y cwblheaist â'th law, megis y mae y dydd hwn.
16. Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, cadw â'th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a wyliant ar eu ffordd, i rodio yn fy nghyfraith i, fel y rhodiaist ti ger fy mron i.
17. Yn awr gan hynny, O Arglwydd Dduw Israel, poed gwir fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd.
18. Ai gwir yw, y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear? Wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy amgyffred; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i?
19. Edrych gan hynny ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O Arglwydd fy Nuw, i wrando ar y llef ac ar y weddi y mae dy was yn ei gweddïo ger dy fron:
20. Fel y byddo dy lygaid yn agored tua'r tŷ yma ddydd a nos, tua'r lle am yr hwn y dywedaist, y gosodit dy enw yno; i wrando ar y weddi a weddïo dy was di yn y fan hon.
21. Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy was, a'th bobl Israel, y rhai a weddïant yn y lle hwn: gwrando di hefyd o le dy breswylfod, sef o'r nefoedd; a phan glywech, maddau.
22. Os pecha gŵr yn erbyn ei gymydog, a gofyn ganddo raith, gan ei dyngu ef, a dyfod y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn:
23. Yna gwrando di o'r nefoedd; gwna hefyd, a barna dy weision; gan dalu i'r drygionus, trwy roddi ei ffordd ef ar ei ben ei hun; a chan gyfiawnhau y cyfiawn, trwy roddi iddo yntau yn ôl ei gyfiawnder.