14. Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw cyffelyb i ti yn y nefoedd, nac ar y ddaear; yn cadw cyfamod a thrugaredd â'th weision, sydd yn rhodio ger dy fron di â'u holl galon:
15. Yr hwn a gedwaist â'th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho; fel y lleferaist â'th enau, felly y cwblheaist â'th law, megis y mae y dydd hwn.
16. Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, cadw â'th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a wyliant ar eu ffordd, i rodio yn fy nghyfraith i, fel y rhodiaist ti ger fy mron i.
17. Yn awr gan hynny, O Arglwydd Dduw Israel, poed gwir fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd.
18. Ai gwir yw, y preswylia Duw gyda dyn ar y ddaear? Wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy amgyffred; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i?