2 Cronicl 4:10-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ac efe a osododd y môr ar yr ystlys ddeau, tua'r dwyrain, ar gyfer y deau.

11. Gwnaeth Hiram hefyd y crochanau, a'r rhawiau, a'r cawgiau: a darfu i Hiram wneuthur y gwaith a wnaeth efe dros frenin Solomon i dŷ Dduw:

12. Y ddwy golofn, a'r cnapiau, a'r coronau ar ben y ddwy golofn, a'r ddwy bleth i guddio y ddau gnap coronog, y rhai oedd ar ben y colofnau:

13. A phedwar cant o bomgranadau ar y ddwy bleth; dwy res oedd o bomgranadau ar bob pleth, i guddio y ddau gnap coronog oedd ar bennau y colofnau.

14. Ac efe a wnaeth ystolion, ac a wnaeth noeau ar yr ystolion;

15. Un môr, a deuddeg o ychen dano:

16. Y crochanau hefyd, a'r rhawiau, a'r cigweiniau, a'u holl lestri hwynt, a wnaeth Hiram ei dad i'r brenin Solomon, yn nhŷ yr Arglwydd, o bres gloyw.

17. Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt, mewn cleidir, rhwng Succoth a Seredatha.

18. Fel hyn y gwnaeth Solomon yr holl lestri hyn, yn lluosog iawn; canys anfeidrol oedd bwys y pres.

19. A Solomon a wnaeth yr holl lestri oedd yn nhŷ Dduw, a'r allor aur, a'r byrddau oedd â'r bara gosod arnynt,

20. A'r canwyllbrennau, a'u lampau, i oleuo yn ôl y ddefod o flaen y gafell, o aur pur;

21. Y blodau hefyd, a'r lampau, a'r gefeiliau, oedd aur, a hwnnw yn aur perffaith.

22. Y saltringau hefyd, a'r cawgiau, a'r llwyau, a'r thuserau, oedd aur pur: a drws y tŷ, a'i ddorau, o du mewn y cysegr sancteiddiolaf, a dorau tŷ y deml, oedd aur.

2 Cronicl 4