2 Cronicl 4:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a wnaeth allor bres, o ugain cufydd ei hyd, ac ugain cufydd ei lled, a deg cufydd ei huchder.

2. Gwnaeth hefyd fôr tawdd, yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, yn grwn o amgylch, ac yn bum cufydd ei uchder, a llinyn o ddeg cufydd ar hugain a'i hamgylchai oddi amgylch.

3. A llun ychen oedd dano yn ei amgylchu o amgylch, mewn deg cufydd yr oeddynt yn amgylchu y môr oddi amgylch: dwy res o ychen oedd wedi eu toddi, pan doddwyd yntau.

4. Sefyll yr oedd ar ddeuddeg o ychen; tri yn edrych tua'r gogledd, a thri yn edrych tua'r gorllewin, a thri yn edrych tua'r deau, a thri yn edrych tua'r dwyrain: a'r môr arnynt oddi arnodd, a'u holl bennau ôl hwynt oedd o fewn.

5. A'i dewder oedd ddyrnfedd, a'i ymyl fel gwaith ymyl cwpan, â blodau lili: a thair mil o bathau a dderbyniai, ac a ddaliai.

6. Gwnaeth hefyd ddeg o noeau, ac efe a roddodd bump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poethoffrwm; ond y môr oedd i'r offeiriaid i ymolchi ynddo.

7. Ac efe a wnaeth ddeg canhwyllbren aur yn ôl eu portreiad, ac a'u gosododd yn y deml, pump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy.

8. Gwnaeth hefyd ddeg o fyrddau, ac a'u gosododd yn y deml, pump o'r tu deau, a phump o'r tu aswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur.

2 Cronicl 4