2 Cronicl 36:4-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A brenin yr Aifft a wnaeth Eliacim ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, ac a drodd ei enw ef yn Joacim. A Necho a gymerodd Joahas ei frawd ef, ac a'i dug i'r Aifft.

5. Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw.

6. Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, ac a'i rhwymodd ef mewn cadwynau pres, i'w ddwyn i Babilon.

7. Nebuchodonosor hefyd a ddug o lestri tŷ yr Arglwydd i Babilon, ac a'u rhoddodd hwynt yn ei deml o fewn Babilon.

8. A'r rhan arall o hanes Joacim, a'i ffieidd-dra ef y rhai a wnaeth efe, a'r hyn a gafwyd arno ef, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. A Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

9. Mab wyth mlwydd oedd Joachin pan ddechreuodd efe deyrnasu, a thri mis a deng niwrnod y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

10. Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor, ac a'i dug ef i Babilon, gyda llestri dymunol tŷ yr Arglwydd: ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.

11. Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

12. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw, ac nid ymostyngodd efe o flaen Jeremeia y proffwyd, yr hwn oedd yn llefaru o enau yr Arglwydd.

2 Cronicl 36