2 Cronicl 35:24-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Felly ei weision a'i tynasant ef o'r cerbyd, ac a'i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo: dygasant ef hefyd i Jerwsalem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau. A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia.

25. Jeremeia hefyd a alarnadodd am Joseia, a'r holl gantorion a'r cantoresau yn eu galarnadau a soniant am Joseia hyd heddiw, a hwy a'i gwnaethant yn ddefod yn Israel; ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn y galarnadau.

26. A'r rhan arall o hanes Joseia a'i ddaioni ef, yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yng nghyfraith yr Arglwydd,

27. A'i weithredoedd ef, cyntaf a diwethaf, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.

2 Cronicl 35