2 Cronicl 35:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Joseia a gynhaliodd Basg i'r Arglwydd yn Jerwsalem: a hwy a laddasant y Pasg y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf.

2. Ac efe a gyfleodd yr offeiriaid yn eu goruchwyliaethau, ac a'u hanogodd hwynt i weinidogaeth tŷ yr Arglwydd;

3. Ac a ddywedodd wrth y Lefiaid, y rhai oedd yn dysgu holl Israel, ac oedd sanctaidd i'r Arglwydd, Rhoddwch yr arch sanctaidd yn y tŷ a adeiladodd Solomon mab Dafydd brenin Israel; na fydded hi mwyach i chwi yn faich ar ysgwydd: gwasanaethwch yn awr yr Arglwydd eich Duw, a'i bobl Israel,

4. Ac ymbaratowch wrth deuluoedd eich tadau, yn ôl eich dosbarthiadau, yn ôl ysgrifen Dafydd brenin Israel, ac yn ôl ysgrifen Solomon ei fab ef.

5. A sefwch yn y cysegr yn ôl dosbarthiadau tylwyth tadau eich brodyr y bobl, ac yn ôl dosbarthiad tylwyth y Lefiaid.

6. Felly lleddwch y Pasg, ac ymsancteiddiwch, a pharatowch eich brodyr, i wneuthur yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses.

7. A Joseia a roddodd i'r bobl ddiadell o ŵyn, a mynnod, i gyd tuag at y Pasg-aberthau, sef i bawb a'r a gafwyd, hyd rifedi deng mil ar hugain, a thair mil o eidionau; hyn oedd o gyfoeth y brenin.

8. A'i dywysogion ef a roddasant yn ewyllysgar i'r bobl, i'r offeiriaid, ac i'r Lefiaid: Hilceia, a Sechareia, a Jehiel, blaenoriaid tŷ Dduw, a roddasant i'r offeiriaid tuag at y Pasg-aberthau, ddwy fil a chwe chant o ddefaid, a thri chant o eidionau.

9. Cononeia hefyd, a Semaia, a Nethaneel, ei frodyr, a Hasabeia, a Jehiel, a Josabad, tywysogion y Lefiaid, a roddasant i'r Lefiaid yn Basg-ebyrth, bum mil o ddefaid, a phum cant o eidionau.

10. Felly y paratowyd y gwasanaeth; a'r offeiriaid a safasant yn eu lle, a'r Lefiaid yn eu dosbarthiadau, yn ôl gorchymyn y brenin.

11. A hwy a laddasant y Pasg; a'r offeiriaid a daenellasant y gwaed o'u llaw hwynt, a'r Lefiaid oedd yn eu blingo hwynt.

12. A chymerasant ymaith y poethoffrymau, i'w rhoddi yn ôl dosbarthiadau teuluoedd y bobl, i offrymu i'r Arglwydd, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr Moses: ac felly am yr eidionau.

13. A hwy a rostiasant y Pasg wrth dân yn ôl y ddefod: a'r cysegredig bethau eraill a ferwasant hwy mewn crochanau, ac mewn pedyll, ac mewn peiriau, ac a'u rhanasant ar redeg i'r holl bobl.

14. Wedi hynny y paratoesant iddynt eu hunain, ac i'r offeiriaid; canys yr offeiriaid meibion Aaron oedd yn offrymu'r poethoffrymau a'r braster hyd y nos; am hynny y Lefiaid oedd yn paratoi iddynt eu hunain, ac i'r offeiriaid meibion Aaron.

15. A meibion Asaff y cantorion oedd yn eu sefyllfa, yn ôl gorchymyn Dafydd, ac Asaff, a Heman, a Jeduthun gweledydd y brenin; a'r porthorion ym mhob porth: ni chaent hwy ymado o'u gwasanaeth; canys eu brodyr y Lefiaid a baratoent iddynt hwy.

2 Cronicl 35