26. Ond am frenin Jwda, yr hwn a'ch anfonodd chwi i ymofyn â'r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel am y geiriau a glywaist;
27. Oblegid i'th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen Duw, pan glywaist ei eiriau ef yn erbyn y fan hon ac yn erbyn ei thrigolion, ac ymostwng ohonot ger fy mron, a rhwygo dy ddillad, ac wylo o'm blaen i; am hynny y gwrandewais innau, medd yr Arglwydd.
28. Wele, mi a'th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir ymaith i'r bedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid di yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr. Felly hwy a ddygasant air i'r brenin drachefn.
29. Yna y brenin a anfonodd, ac a gynullodd holl henuriaid Jwda a Jerwsalem.
30. A'r brenin a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, a holl wŷr Jwda, a thrigolion Jerwsalem, yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid, a'r holl bobl o fawr i fychan; ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd.
31. A'r brenin a safodd yn ei le, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr Arglwydd, ar rodio ar ôl yr Arglwydd, ac ar gadw ei orchmynion ef, a'i dystiolaethau, a'i ddefodau, â'i holl galon, ac â'i holl enaid; i gwblhau geiriau y cyfamod y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwnnw.