2 Cronicl 33:5-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu'r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr Arglwydd.

6. Ac efe a yrrodd ei feibion trwy'r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frud, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i'w ddigio ef.

7. Ac efe a osododd y ddelw gerfiedig, y ddelw a wnaethai efe, yn nhŷ Dduw, am yr hwn y dywedasai Duw wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fy enw yn dragywydd.

8. Ac ni chwanegaf symud troed Israel oddi ar y tir a ordeiniais i'ch tadau chwi; os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, yn ôl yr holl gyfraith, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, trwy law Moses.

9. Felly Manasse a wnaeth i Jwda a thrigolion Jerwsalem gyfeiliorni, a gwneuthur yn waeth na'r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel.

10. Er llefaru o'r Arglwydd wrth Manasse, ac wrth ei bobl, eto ni wrandawsant hwy.

11. Am hynny y dug yr Arglwydd arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a'i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a'i dygasant ef i Babilon.

12. A phan oedd gyfyng arno ef, efe a weddïodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ymostyngodd yn ddirfawr o flaen Duw ei dadau,

13. Ac a weddïodd arno ef: ac efe a fu fodlon iddo, ac a wrandawodd ei ddymuniad ef, ac a'i dug ef drachefn i Jerwsalem i'w frenhiniaeth. Yna y gwybu Manasse mai yr Arglwydd oedd Dduw.

14. Wedi hyn hefyd efe a adeiladodd y mur oddi allan i ddinas Dafydd, o du'r gorllewin i Gihon, yn y dyffryn, hyd y ddyfodfa i borth y pysgod, ac a amgylchodd Offel, ac a'i cyfododd yn uchel iawn, ac a osododd dywysogion y llu yn yr holl ddinasoedd caerog o fewn Jwda.

15. Ac efe a dynnodd ymaith y duwiau dieithr, a'r ddelw, allan o dŷ yr Arglwydd, a'r holl allorau a adeiladasai efe ym mynydd tŷ yr Arglwydd, ac yn Jerwsalem, ac a'u taflodd allan o'r ddinas.

2 Cronicl 33