2 Cronicl 33:16-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant; dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu Arglwydd Dduw Israel.

17. Er hynny y bobl oedd eto yn aberthu yn yr uchelfeydd: eto i'r Arglwydd eu Duw yn unig.

18. A'r rhan arall o hanes Manasse, a'i weddi ef at ei Dduw, a geiriau y gweledyddion a lefarasant wrtho ef yn enw Arglwydd Dduw Israel, wele hwynt ymhlith geiriau brenhinoedd Israel.

19. Ei weddi ef hefyd, a'r modd y cymododd Duw ag ef, a'i holl bechod ef, a'i gamwedd, a'r lleoedd yr adeiladodd efe ynddynt uchelfeydd, ac y gosododd lwyni, a delwau cerfiedig, cyn ymostwng ohono ef; wele hwynt yn ysgrifenedig ymysg geiriau y gweledyddion.

20. Felly Manasse a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn ei dŷ ei hun; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

21. Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

22. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel y gwnaethai Manasse ei dad ef: canys Amon a aberthodd i'r holl ddelwau cerfiedig a wnaethai Manasse ei dad ef, ac a'u gwasanaethodd hwynt.

23. Ond nid ymostyngodd efe gerbron yr Arglwydd, fel yr ymostyngasai Manasse ei dad ef: eithr yr Amon yma a bechodd fwyfwy.

24. A'i weision ef a fradfwriadasant i'w erbyn ef, ac a'i lladdasant ef yn ei dŷ ei hun.

2 Cronicl 33