2 Cronicl 32:11-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ond Heseceia sydd yn eich hudo chwi, i'ch rhoddi chwi i farw trwy newyn, a thrwy syched, gan ddywedyd, Yr Arglwydd ein Duw a'n gwared ni o law brenin Asyria.

12. Onid yr Heseceia hwnnw a dynnodd ymaith ei uchelfeydd ef, a'i allorau, ac a orchmynnodd i Jwda a Jerwsalem, gan ddywedyd, O flaen un allor yr addolwch, ac ar honno yr aroglderthwch?

13. Oni wyddoch chwi beth a wneuthum, mi a'm tadau, i holl bobl y tiroedd? ai gan allu y gallai duwiau cenhedloedd y gwledydd achub eu gwlad o'm llaw i?

14. Pwy oedd ymysg holl dduwiau y cenhedloedd hyn, y rhai a ddarfu i'm tadau eu difetha, a allai waredu ei bobl o'm llaw i, fel y gallai eich Duw chwi eich gwaredu chwi o'm llaw i?

15. Yn awr gan hynny na thwylled Heseceia chwi, ac na huded mohonoch fel hyn, ac na choeliwch iddo ef: canys ni allodd duw un genedl na theyrnas achub ei bobl o'm llaw i, nac o law fy nhadau: pa faint llai y gwared eich Duw chwychwi o'm llaw i?

16. A'i weision ef a ddywedasant ychwaneg yn erbyn yr Arglwydd Dduw, ac yn erbyn Heseceia ei was ef.

17. Ac efe a ysgrifennodd lythyrau i gablu Arglwydd Dduw Israel, ac i lefaru yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, Fel nad achubodd duwiau cenhedloedd y gwledydd eu pobl o'm llaw i, felly nid achub Duw Heseceia ei bobl o'm llaw i.

18. Yna y gwaeddasant hwy â llef uchel, yn iaith yr Iddewon, ar bobl Jerwsalem y rhai oedd ar y mur, i'w hofni hwynt, ac i'w brawychu; fel yr enillent hwy y ddinas.

19. A hwy a ddywedasant yn erbyn Duw Jerwsalem fel yn erbyn duwiau pobloedd y wlad, sef gwaith dwylo dyn.

20. Am hynny y gweddïodd Heseceia y brenin, ac Eseia y proffwyd mab Amos, ac a waeddasant i'r nefoedd.

2 Cronicl 32