6. A meibion Israel a Jwda, y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid, a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i'r Arglwydd eu Duw, ac a'u gosodasant bob yn bentwr.
7. Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio'r pentyrrau, ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt.
8. A phan ddaeth Heseceia a'r tywysogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr Arglwydd, a'i bobl Israel.
9. A Heseceia a ymofynnodd รข'r offeiriaid a'r Lefiaid oherwydd y pentyrrau.