2 Cronicl 31:4-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Efe a ddywedodd hefyd wrth y bobl, trigolion Jerwsalem, am roddi rhan i'r offeiriaid a'r Lefiaid, fel yr ymgryfhaent yng nghyfraith yr Arglwydd.

5. A phan gyhoeddwyd y gair hwn, meibion Israel a ddygasant yn aml, flaenffrwyth yr ŷd, y gwin, a'r olew, a'r mêl, ac o holl gnwd y maes, a'r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth.

6. A meibion Israel a Jwda, y rhai oedd yn trigo yn ninasoedd Jwda, hwythau a ddygasant ddegwm gwartheg a defaid, a degwm y pethau cysegredig a gysegrasid i'r Arglwydd eu Duw, ac a'u gosodasant bob yn bentwr.

7. Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio'r pentyrrau, ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt.

8. A phan ddaeth Heseceia a'r tywysogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr Arglwydd, a'i bobl Israel.

9. A Heseceia a ymofynnodd â'r offeiriaid a'r Lefiaid oherwydd y pentyrrau.

10. Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dŷ Sadoc, a ddywedodd wrtho, ac a lefarodd, Er pan ddechreuwyd dwyn offrymau i dŷ yr Arglwydd, bwytasom a digonwyd ni, gweddillasom hefyd lawer iawn: canys yr Arglwydd a fendithiodd ei bobl; a'r gweddill yw yr amldra hyn.

2 Cronicl 31