19. Ac i feibion Aaron, yr offeiriaid, y rhai oedd ym meysydd pentrefol eu dinasoedd, ym mhob dinas, y gwŷr a enwasid wrth eu henwau, i roddi rhannau i bob gwryw ymysg yr offeiriaid, ac i'r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ymhlith y Lefiaid.
20. Ac fel hyn y gwnaeth Heseceia trwy holl Jwda, ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn, a'r gwirionedd, gerbron yr Arglwydd ei Dduw.
21. Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd efe yng ngweinidogaeth tŷ Dduw, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn i geisio ei Dduw, efe a'i gwnaeth â'i holl galon, ac a ffynnodd.