2 Cronicl 25:18-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn sydd yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden sydd yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i'm mab i yn wraig: a bwystfil y maes, yr hwn oedd yn Libanus, a dramwyodd, ac a sathrodd yr ysgellyn.

19. Dywedaist, Wele, trewaist yr Edomiaid, a'th galon a'th ddyrchafodd i ymffrostio; eistedd yn awr yn dy dŷ; paham yr wyt yn ymyrryd er drwg i ti dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi?

20. Ond ni wrandawai Amaseia; canys oddi wrth Dduw yr oedd hynny, fel y rhoddid hwynt yn llaw y gelyn, am iddynt geisio duwiau Edom.

21. Felly Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Bethsemes, yr hon oedd yn Jwda.

22. A Jwda a drawyd o flaen Israel, a hwy a ffoesant bawb i'w pebyll.

23. A Jaos brenin Israel a ddaliodd Amaseia mab Joas, fab Jehoahas brenin Jwda, yn Bethsemes, ac a'i dug ef i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem, o borth Effraim hyd borth y gongl, pedwar can cufydd.

24. Ac efe a gymerth yr holl aur, a'r arian, a'r holl lestri a gafwyd yn nhŷ Dduw gydag Obed-edom, a thrysorau tŷ y brenin, a'r gwystlon hefyd, ac a ddychwelodd i Samaria.

25. Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw, wedi marwolaeth Joas mab Jehoahas brenin Israel, bymtheng mlynedd.

26. A'r rhan arall o'r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Amaseia, wele, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel?

27. Ac wedi'r amser yr ymadawodd Amaseia oddi ar ôl yr Arglwydd, hwy a fradfwriadasant fradwriaeth yn ei erbyn ef yn Jerwsalem, ac efe a ffodd i Lachis: ond hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a'i lladdasant ef yno.

28. A hwy a'i dygasant ef ar feirch, ac a'i claddasant ef gyda'i dadau yn ninas Jwda.

2 Cronicl 25