5. Ac efe a gynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i ddinasoedd Jwda, a chesglwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich Duw, o flwyddyn i flwyddyn: prysurwch chwithau y peth. Ond ni frysiodd y Lefiaid.
6. A'r brenin a alwodd am Jehoiada, yr offeiriad pennaf, ac a ddywedodd wrtho, Paham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Jwda, ac o Jerwsalem, dreth Moses gwas yr Arglwydd, a chynulleidfa Israel, i babell y dystiolaeth?
7. Canys meibion Athaleia, y wraig ddrygionus honno, a rwygasent dŷ Dduw; a holl gysegredig bethau tŷ yr Arglwydd a roesant hwy i Baalim.
8. Ac wrth orchymyn y brenin hwy a wnaethant gist, ac a'i gosodasant hi ym mhorth tŷ yr Arglwydd oddi allan.
9. A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda, ac yn Jerwsalem, ar ddwyn i'r Arglwydd dreth Moses gwas Duw, yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch.
10. A'r holl dywysogion a'r holl bobl a lawenychasant, ac a ddygasant, ac a fwriasant i'r gist, nes gorffen ohonynt.