Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Sechareia mab Jehoiada yr offeiriad, ac efe a safodd oddi ar y bobl, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Fel hyn y dywedodd Duw, Paham yr ydych chwi yn troseddu gorchmynion yr Arglwydd? diau na ffynnwch chwi; canys gwrthodasoch yr Arglwydd, am hynny yntau a'ch gwrthyd chwithau.