2 Cronicl 24:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Mab saith mlwydd oedd Joas pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deugain mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sibia o Beerseba.

2. A Joas a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd holl ddyddiau Jehoiada yr offeiriad.

3. A Jehoiada a gymerth iddo ddwy wraig: ac efe a genhedlodd feibion a merched.

4. Ac wedi hyn Joas a roes ei fryd ar adnewyddu tŷ yr Arglwydd.

5. Ac efe a gynullodd yr offeiriaid a'r Lefiaid, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i ddinasoedd Jwda, a chesglwch gan holl Israel arian i gyweirio tŷ eich Duw, o flwyddyn i flwyddyn: prysurwch chwithau y peth. Ond ni frysiodd y Lefiaid.

6. A'r brenin a alwodd am Jehoiada, yr offeiriad pennaf, ac a ddywedodd wrtho, Paham na cheisiaist gan y Lefiaid ddwyn o Jwda, ac o Jerwsalem, dreth Moses gwas yr Arglwydd, a chynulleidfa Israel, i babell y dystiolaeth?

7. Canys meibion Athaleia, y wraig ddrygionus honno, a rwygasent dŷ Dduw; a holl gysegredig bethau tŷ yr Arglwydd a roesant hwy i Baalim.

8. Ac wrth orchymyn y brenin hwy a wnaethant gist, ac a'i gosodasant hi ym mhorth tŷ yr Arglwydd oddi allan.

9. A rhoddasant gyhoeddiad yn Jwda, ac yn Jerwsalem, ar ddwyn i'r Arglwydd dreth Moses gwas Duw, yr hon a roesid ar Israel yn yr anialwch.

2 Cronicl 24