7. A'r Lefiaid a amgylchant y brenin o bob tu, pob un â'i arfau yn ei law; a phwy bynnag arall a ddelo i'r tŷ, lladder ef: ond byddwch chwi gyda'r brenin, pan ddelo efe i mewn, a phan elo efe allan.
8. A'r Lefiaid a holl Jwda a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jehoiada yr offeiriad, a hwy a gymerasant bawb eu gwŷr, y rhai oedd yn dyfod i mewn ar y Saboth, gyda'r rhai oedd yn myned allan ar y Saboth: (canys ni ryddhasai Jehoiada yr offeiriad y dosbarthiadau.)
9. A Jehoiada yr offeiriad a roddodd i dywysogion y cannoedd, y gwaywffyn, a'r tarianau, a'r estylch, a fuasai yn eiddo y brenin Dafydd, y rhai oedd yn nhŷ Dduw.
10. Ac efe a gyfleodd yr holl bobl, a phob un â'i arf yn ei law, o'r tu deau i'r tŷ hyd y tu aswy i'r tŷ, ynghylch yr allor a'r tŷ, yn ymyl y brenin oddi amgylch.
11. Yna y dygasant allan fab y brenin, a rhoddasant y goron arno ef, a'r dystiolaeth, ac a'i hurddasant ef yn frenin: Jehoiada hefyd a'i feibion a'i heneiniasant ef, ac a ddywedasant, Byw fyddo y brenin.
12. A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, ac yn moliannu y brenin, hi a ddaeth at y bobl i dŷ yr Arglwydd.
13. A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a'r tywysogion a'r utgyrn yn ymyl y brenin; a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a'r cantorion ag offer cerdd, a'r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!
14. A Jehoiada yr offeiriad a ddug allan dywysogion y cannoedd, sef swyddogion y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi allan o'r rhesau: a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â'r cleddyf. Canys dywedasai yr offeiriad, Na leddwch hi yn nhŷ yr Arglwydd.
15. A hwy a roddasant ddwylo arni hi, a hi a ddaeth tua'r porth y deuai y meirch i dŷ y brenin, ac yno y lladdasant hwy hi.
16. A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i'r Arglwydd.
17. Yna yr holl bobl a aethant i dŷ Baal, ac a'i distrywiasant ef, a'i allorau, ei ddelwau hefyd a ddrylliasant hwy, ac a laddasant Mattan offeiriad Baal o flaen yr allor.
18. A Jehoiada a osododd swyddau yn nhŷ yr Arglwydd, dan law yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai a ddosbarthasai Dafydd yn nhŷ yr Arglwydd, i offrymu poethoffrymau yr Arglwydd, fel y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, mewn llawenydd a chân, yn ôl trefn Dafydd.
19. Ac efe a gyfleodd y porthorion wrth byrth tŷ yr Arglwydd, fel na ddelai i mewn neb a fyddai aflan mewn dim oll.
20. Cymerodd hefyd dywysogion y cannoedd, a'r pendefigion, a'r rhai oedd yn arglwyddiaethu ar y bobl, a holl bobl y wlad, ac efe a ddug y brenin i waered o dŷ yr Arglwydd: a hwy a ddaethant trwy y porth uchaf i dŷ y brenin, ac a gyfleasant y brenin ar orseddfa y frenhiniaeth.