9. Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a'n gwaredi ni.
10. Ac yn awr wele feibion Ammon a Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai ni chaniateaist i Israel fyned atynt, pan ddaethant o wlad yr Aifft; ond hwy a droesant oddi wrthynt, ac ni ddifethasant hwynt:
11. Eto wele hwynt-hwy yn talu i ni, gan ddyfod i'n bwrw ni allan o'th etifeddiaeth di, yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu.
12. O ein Duw ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i'n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid.
13. A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr Arglwydd, â'u rhai bach, eu gwragedd, a'u plant.
14. Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr Arglwydd yng nghanol y gynulleidfa.
15. Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo Dduw.
16. Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis, a chwi a'u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon, tuag anialwch Jeruel.
17. Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr Arglwydd tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt, a'r Arglwydd fydd gyda chwi.
18. A Jehosaffat a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb: holl Jwda hefyd a holl drigolion Jerwsalem a syrthiasant gerbron yr Arglwydd, gan addoli yr Arglwydd.