2 Cronicl 20:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr Arglwydd: canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Jwda i geisio'r Arglwydd.

5. A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem, yn nhÅ· yr Arglwydd, o flaen y cyntedd newydd,

6. Ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw ein tadau, onid wyt ti yn Dduw yn y nefoedd, ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di?

7. Onid tydi ein Duw ni a yrraist ymaith breswylwyr y wlad hon o flaen dy bobl Israel, ac a'i rhoddaist hi i had Abraham dy garedigol yn dragywydd?

8. A thrigasant ynddi, ac adeiladasant i ti ynddi gysegr i'th enw, gan ddywedyd,

2 Cronicl 20