33. Er hynny ni thynnwyd yr uchelfeydd ymaith: canys ni pharatoesai y bobl eu calon eto at Dduw eu tadau.
34. A'r rhan arall o'r gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Jehosaffat, wele hwy yn ysgrifenedig ymysg geiriau Jehu mab Hanani, yr hwn y crybwyllir amdano yn llyfr brenhinoedd Israel.
35. Ac wedi hyn Jehosaffat brenin Jwda a ymgyfeillodd ag Ahaseia brenin Israel, yr hwn a ymroddasai i ddrygioni.
36. Ac efe a unodd ag ef ar wneuthur llongau i fyned i Tarsis: a gwnaethant y llongau yn Esion-gaber.
37. Yna Elieser mab Dodafa o Maresa a broffwydodd yn erbyn Jehosaffat, gan ddywedyd, Oherwydd i ti ymgyfeillachu ag Ahaseia, yr Arglwydd a ddrylliodd dy waith di. A'r llongau a ddrylliwyd, fel na allasant fyned i Tarsis.