2 Cronicl 20:22-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a'r moliant, y rhoddodd yr Arglwydd gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon, Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda; a hwy a laddasant bawb ei gilydd.

23. Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, i'w difrodi, ac i'w difetha hwynt: a phan orffenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd.

24. A phan ddaeth Jwda hyd Mispa yn yr anialwch, hwy a edrychasant ar y dyrfa, ac wele hwynt yn gelaneddau meirwon yn gorwedd ar y ddaear, ac heb un dihangol.

25. A phan ddaeth Jehosaffat a'i bobl i ysglyfaethu eu hysbail hwynt, hwy a gawsant yn eu mysg hwy lawer o olud, gyda'r cyrff meirw, a thlysau dymunol, yr hyn a ysglyfaethasant iddynt, beth anfeidrol: a thridiau y buant yn ysglyfaethu yr ysbail; canys mawr oedd.

26. Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgynullasant i ddyffryn y fendith; canys yno y bendithiasant yr Arglwydd: am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn y fendith, hyd heddiw.

27. Yna y dychwelodd holl wŷr Jwda a Jerwsalem, a Jehosaffat yn flaenor iddynt, i fyned yn eu hôl i Jerwsalem mewn llawenydd; canys yr Arglwydd a roddasai lawenydd iddynt hwy ar eu gelynion.

28. A hwy a ddaethant i Jerwsalem â nablau, a thelynau, ac utgyrn, i dŷ yr Arglwydd.

29. Ac ofn Duw oedd ar holl deyrnasoedd y ddaear, pan glywsant hwy fel y rhyfelasai yr Arglwydd yn erbyn gelynion Israel.

30. Felly teyrnas Jehosaffat a gafodd lonydd: canys ei Dduw a roddodd iddo lonyddwch o amgylch.

31. A Jehosaffat a deyrnasodd ar Jwda: mab pymtheng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Asuba merch Silhi.

2 Cronicl 20