2 Cronicl 20:14-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr Arglwydd yng nghanol y gynulleidfa.

15. Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo Dduw.

16. Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis, a chwi a'u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon, tuag anialwch Jeruel.

17. Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr Arglwydd tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt, a'r Arglwydd fydd gyda chwi.

18. A Jehosaffat a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb: holl Jwda hefyd a holl drigolion Jerwsalem a syrthiasant gerbron yr Arglwydd, gan addoli yr Arglwydd.

19. A'r Lefiaid, o feibion y Cohathiaid, ac o feibion y Corhiaid, a gyfodasant i foliannu Arglwydd Dduw Israel â llef uchel ddyrchafedig.

20. A hwy a gyfodasant yn fore, ac a aethant i anialwch Tecoa: ac wrth fyned ohonynt, Jehosaffat a safodd, ac a ddywedodd, Gwrandewch fi, O Jwda, a thrigolion Jerwsalem; Credwch yn yr Arglwydd eich Duw, a chwi a sicrheir; coeliwch ei broffwydi ef, a chwi a ffynnwch.

21. Ac efe a ymgynghorodd â'r bobl, ac a osododd gantorion i'r Arglwydd, a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwyr; ac i ddywedyd, Clodforwch yr Arglwydd, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

22. Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a'r moliant, y rhoddodd yr Arglwydd gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon, Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda; a hwy a laddasant bawb ei gilydd.

23. Canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, i'w difrodi, ac i'w difetha hwynt: a phan orffenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb ei gilydd.

2 Cronicl 20