5. Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad, trwy holl ddinasoedd caerog Jwda, o ddinas bwygilydd;
6. Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr Arglwydd; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn.
7. Yn awr gan hynny bydded ofn yr Arglwydd arnoch chwi; gwyliwch a gwnewch hynny: oherwydd nid oes anwiredd gyda'r Arglwydd ein Duw, na derbyn wyneb, na chymryd gwobr.
8. A Jehosaffat a osododd hefyd yn Jerwsalem rai o'r Lefiaid, ac o'r offeiriaid, ac o bennau tadau Israel, i drin barnedigaethau yr Arglwydd, ac amrafaelion, pan ddychwelent i Jerwsalem.
9. Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnewch mewn ofn yr Arglwydd, mewn ffyddlondeb, ac â chalon berffaith.
10. A pha amrafael bynnag a ddêl atoch chwi oddi wrth eich brodyr, y rhai sydd yn trigo yn eu dinasoedd, rhwng gwaed a gwaed, rhwng cyfraith a gorchymyn, deddfau a barnedigaethau, rhybuddiwch hwynt na throseddont yn erbyn yr Arglwydd, a bod digofaint arnoch chwi, ac ar eich brodyr: felly gwnewch ac na throseddwch.
11. Ac wele, Amareia yr archoffeiriad sydd arnoch chwi ym mhob peth a berthyn i'r Arglwydd; a Sebadeia mab Ismael, blaenor tŷ Jwda, ym mhob achos i'r brenin; a'r Lefiaid yn swyddogion ger eich bron chwi. Ymwrolwch, a gwnewch hynny, a'r Arglwydd fydd gyda'r daionus.