1. A Jehosaffat brenin Jwda a ddychwelodd i'w dŷ ei hun i Jerwsalem mewn heddwch.
2. A Jehu mab Hanani y gweledydd, a aeth o'i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat, Ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn casáu yr Arglwydd, a wneit ti? am hyn digofaint oddi wrth yr Arglwydd sydd arnat ti.
3. Er hynny pethau da a gafwyd ynot ti; canys ti a dynnaist ymaith y llwyni o'r wlad, ac a baratoaist dy galon i geisio Duw.
4. A Jehosaffat a drigodd yn Jerwsalem: ac efe a aeth drachefn trwy'r bobl o Beerseba hyd fynydd Effraim, ac a'u dug hwynt eilwaith at Arglwydd Dduw eu tadau.
5. Ac efe a osododd farnwyr yn y wlad, trwy holl ddinasoedd caerog Jwda, o ddinas bwygilydd;
6. Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr Arglwydd; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn.
7. Yn awr gan hynny bydded ofn yr Arglwydd arnoch chwi; gwyliwch a gwnewch hynny: oherwydd nid oes anwiredd gyda'r Arglwydd ein Duw, na derbyn wyneb, na chymryd gwobr.