22. Ac yn awr wele, yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; a'r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti.
23. Yna Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi?
24. A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio.
25. A brenin Israel a ddywedodd, Cymerwch Michea, a dygwch ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin;
26. A dywedwch, Fel hyn y dywedodd y brenin, Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd, ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch.
27. Yna y dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi. Efe a ddywedodd hefyd, Gwrandewch hyn, yr holl bobl.
28. Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth-Gilead.
29. A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i'r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad. Felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad, a hwy a aethant i'r rhyfel.
30. A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau y rhai oedd ganddo ef, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig.
31. A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: ond Jehosaffat a waeddodd, a'r Arglwydd a'i cynorthwyodd ef, a Duw a'u gyrrodd hwynt oddi wrtho ef.
32. A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef.
33. A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig: am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o'r gad; canys fe'm clwyfwyd i.
34. A'r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw; a brenin Israel a gynhelid yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid hyd yr hwyr: ac efe a fu farw ynghylch machludiad haul.