2 Cronicl 17:15-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A cher ei law ef, Jehohanan y tywysog, a chydag ef ddau cant a phedwar ugain mil.

16. A cherllaw iddo ef, Amaseia mab Sichri, yr hwn o'i wirfodd a ymroddodd i'r Arglwydd; a chydag ef ddau can mil o wŷr cedyrn nerthol.

17. Ac o Benjamin, yr oedd Eliada yn ŵr cadarn nerthol, a chydag ef ddau can mil yn arfogion â bwâu a tharianau.

18. A cherllaw iddo ef, Jehosabad, a chydag ef gant a phedwar ugain mil yn barod i ryfel.

19. Y rhai hyn oedd yn gwasanaethu y brenin, heblaw y rhai a roddasai y brenin yn y dinasoedd caerog, trwy holl Jwda.

2 Cronicl 17