2 Cronicl 16:9-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Canys y mae llygaid yr Arglwydd yn edrych ar yr holl ddaear, i'w ddangos ei hun yn gryf gyda'r rhai sydd a'u calon yn berffaith tuag ato ef. Ynfyd y gwnaethost yn hyn; am hynny rhyfeloedd fydd i'th erbyn o hyn allan.

10. Yna y digiodd Asa wrth y gweledydd, ac a'i rhoddodd ef mewn carchardy; canys yr oedd efe yn ddicllon wrtho am y peth hyn. Ac Asa a orthrymodd rai o'r bobl y pryd hwnnw.

11. Ac wele, gweithredoedd Asa, y rhai cyntaf a'r rhai diwethaf, wele, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

12. Ac Asa a glafychodd o'i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o'i deyrnasiad, nes i'w glefyd fyned yn ddirfawr; eto ni cheisiodd efe yr Arglwydd yn ei glefyd, ond y meddygon.

13. Ac Asa a hunodd gyda'i dadau, ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o'i deyrnasiad.

14. A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid รข pheraroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari; a hwy a gyneuasant iddo ef gynnau mawr iawn.

2 Cronicl 16