2 Cronicl 14:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Felly Abeia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd; ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. Yn ei ddyddiau ef y cafodd y wlad lonydd ddeng mlynedd.

2. Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw.

3. Canys efe a fwriodd ymaith allorau y duwiau dieithr, a'r uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni:

4. Ac a orchmynnodd i Jwda geisio Arglwydd Dduw eu tadau, a gwneuthur y gyfraith a'r gorchymyn.

2 Cronicl 14