12. Ac wele, Duw sydd ben gyda ni, a'i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn Arglwydd Dduw eich tadau; canys ni lwyddwch chwi.
13. Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch, a dyfod o'u hôl hwynt: felly yr oeddynt hwy o flaen Jwda, a'r cynllwyn o'r tu ôl iddynt.
14. A Jwda a edrychodd yn ôl, ac wele ryfel iddynt ymlaen ac yn ôl; a hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, a'r offeiriaid a leisiasant mewn utgyrn.
15. A gwŷr Jwda a floeddiasant: a phan waeddodd gwŷr Jwda, Duw a drawodd Jeroboam, a holl Israel, a flaen Abeia a Jwda.
16. A meibion Israel a ffoesant o flaen Jwda: a Duw a'u rhoddodd hwynt i'w llaw hwynt.
17. Ac Abeia a'i bobl a'u trawsant hwy â lladdfa fawr: a syrthiodd yn archolledig o Israel bum can mil o wŷr etholedig.
18. Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hwnnw; a meibion Jwda a orfuant, oherwydd iddynt bwyso ar Arglwydd Dduw eu tadau.
19. Ac Abeia a erlidiodd ar ôl Jeroboam, ac a ddug oddi arno ef ddinasoedd, Bethel a'i phentrefi, a Jesana a'i phentrefi, ac Effraim a'i phentrefi.
20. Ac ni chafodd Jeroboam nerth mwyach yn nyddiau Abeia: ond yr Arglwydd a'i trawodd ef, fel y bu efe farw.
21. Ond Abeia a ymgryfhaodd, ac a gymerth iddo bedair ar ddeg o wragedd, ac a genhedlodd ddau fab ar hugain, ac un ar bymtheg o ferched.
22. A'r rhan arall o hanes Abeia, a'i ffyrdd ef, a'i eiriau, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Ido.