15. Ac ni wrandawodd y brenin ar y bobl: oherwydd yr achos oedd oddi wrth Dduw, fel y cwblhâi yr Arglwydd ei air a lefarasai efe trwy law Ahïa y Siloniad wrth Jeroboam mab Nebat.
16. A phan welodd holl Israel na wrandawai y brenin arnynt hwy, y bobl a atebasant y brenin, gan ddywedyd, Pa ran sydd i ni yn Dafydd? nid oes chwaith i ni etifeddiaeth ym mab Jesse: O Israel, aed pawb i'w pebyll, edrych yn awr ar dy dŷ dy hun, Dafydd. Felly holl Israel a aethant i'w pebyll.
17. Ond meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn ninasoedd Jwda, Rehoboam a deyrnasodd arnynt hwy.
18. A'r brenin Rehoboam a anfonodd Hadoram, yr hwn oedd ar y dreth, a meibion Israel a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw: ond y brenin Rehoboam a brysurodd i fyned i'w gerbyd, i ffoi i Jerwsalem.
19. Ac Israel a wrthryfelasant yn erbyn tŷ Dafydd hyd y dydd hwn.