2 Cronicl 1:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A SOLOMON mab Dafydd a ymgadarnhaodd yn ei deyrnas, a'r Arglwydd ei Dduw oedd gydag ef, ac a'i mawrhaodd ef yn ddirfawr.

2. A Solomon a ddywedodd wrth holl Israel, wrth dywysogion y miloedd a'r cannoedd, ac wrth y barnwyr, ac wrth bob llywodraethwr yn holl Israel, sef y pennau-cenedl.

3. Felly Solomon a'r holl dyrfa gydag ef a aethant i'r uchelfa oedd yn Gibeon: canys yno yr oedd pabell cyfarfod Duw, yr hon a wnaethai Moses gwas yr Arglwydd yn yr anialwch.

2 Cronicl 1